Cynorthwywch ni i ddiogelu’r Maelgi yn yr Ynysoedd Dedwydd, yn Nwyrain yr Iwerydd ac ym Môr y Canoldir drwy nodi’r hyn i chi eu gweld ar y Map Cipolwg o’r Maelgi. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu ymysg Partners and Collaborators er mwyn cael gwell dealltwriaeth a diogelu’r Maelgi yn yr ardal. Diolch i chi am heich help!
Er mwyn nodi eich bod wedi gweld Maelgi:
Teulu’r Maelgi yw’r ail rywgaeth sydd o dan y mwyaf o fygythiad ymhlith siarcod a morgathod y byd. Arferai’r Maelgi fod yn niferus trwy Ddwyrain yr Iwerydd a Môr y Canoldir ond maent wedi lleihau’n ddramatig dros y 100 mlynedd ddiwethaf, a hynny’n bennaf oherwydd ymarferion pysgota dwys. Mae’r dair rhywogaeth o’r Maelgi a ganfyddir yn yr ardal hon yn cael eu rhestru fel rhywogaethau sydd mewn perygl ar Restr Goch yr IUCN.:
Mae gobaith! Mae deifwyr a physgotwyr yn aml yn gweld maelgwn yn yr Ynysoedd Dedwydd – cadarnle unigrwy ar gyfer y Maelgwn. Gwelir y Maelgi, y Maelgi Cefn Llif a’r Maelgi Cefn Gwastad yn achlysurol mewn ardaloedd eraill. Mae’r Map Cipolwg o’r Maelgi wedi cael ei gynllunio er mwyn sicrhau fod pob cipolwg yn cael eu nodi yn yr un lle.
Mae 2016 yn nodi cam pwysig ar gyfer cadwraeth y Maelgi, gyda datblygiad Angelshark Action Plan for the Canary Islands a Rhwydwaith Gadwriaethol y Maelgi.
Mae’r sefydliadau isod yn bartneriaid o’r Map Cipolwg o’r Maelgi a bydant yn derbyn data o’r hyn a welsoch. Bydd y data yn cael ei ddefnyddio gan bob sefydliad er mwyn deall yn well a diogelu’r Maelgi yn eu hardaloedd. Bydd yn arwain at gyfleoedd i gydweithio ar ymchwil a chadwraeth.
E-bostiwch ni os hoffech fod yn Bartner neu’n Gydweithiwr..
Datblygwyd y Map Cigolwg o’r Maelgi gan Octophin Digital ar gyfer Cymdeithas Sŵoleg Llundain, fel rhan o’r Angel Shark Project. Cafodd ei ariannu gan Gronfa Gadwraeth Rhywogaethau Mohamed Bin Zayed, yr Ymgynghoriaeth Bioamrywiol a Sefydliad Save Our Seas
Bathymetry data is provided via: EMODnet Bathymetry Consortium (2018). EMODnet Digital Bathymetry (DTM 2018). EMODnet Bathymetry Consortium. https://doi.org/10.12770/18ff0d48-b203-4a65-94a9-5fd8b0ec35f6